Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 28 Medi 2021
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau Rhynglywodraethol
(45 munud)
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Codi’r Gwastad
(45 munud)
5 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd
(45 munud)
NDM7781 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai’r darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd, i’r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2021 a 3 Medi 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil yr Amgylchedd (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr
Amgylchedd a Seilwaith (Saesneg yn unig)
6 Dadl: Defnyddio Adolygiad Llywodraeth y DU o Wariant i fynd i’r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru
(60 munud)
NDM7782 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau o ran cymeradwyo rhaglen gyllid ar gyfer adfer ac adennill tomenni glo yng Nghymru a’u haddasu at ddibenion gwahanol.
Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:
Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu 'Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau' a rhoi 'Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflawni eu cyfrifoldebau' yn ei le.
7 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 29 Medi 2021